P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni o’r farn y dylai Mynwy gael y ddarpariaeth ambiwlans briodol. Gan fod disgwyl i boblogaeth Mynwy gynyddu, a bod Uned Mân Anafiadau Monnow Vale wedi cau’n ddiweddar, bydd rhagor o alw ar y gwasanaeth ambiwlans.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Rydym yn gofyn i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad
Cenedlaethol gynnal ymchwiliad i’r gwasanaeth ambiwlans yng
nghefn gwlad Cymru. Byddem yn annog y Pwyllgor i ymchwilio
i’r problemau penodol sy’n bodoli ym Mynwy a pha
effaith gafodd cau’r Uned Mân Anafiadau yn Monnow Vale
ar y gwasanaeth ambiwlans.
Llywodraeth Cymru:
Rydym yn annog y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
ddefnyddio’i phwerau i’w gwneud yn ofynnol i
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ddarparu
gwasanaeth ambiwlans o safon uchel ledled Cymru ac yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig fel Mynwy.
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:
Rydym yn galw ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i
wella’r ddarpariaeth ym Mynwy mewn termau real, gydag uned
dibyniaeth fawr a/neu ambiwlans yn nhref Mynwy.
Prif ddeisebydd: Mathew Davies
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 7 Chwefror 2012
Nifer y deisebwyr: Casglwyd tua 450 o lofnodion.